Triawdau Pythagoraidd

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Animeiddiad sy'n arddangos y triawd Pythagoraidd symlaf, 32 + 42 = 52.

Set o rifau yw'r triawdau Pythagoraidd, sef tri cyfanrif positif Nodyn:Math, Nodyn:Math, ac Nodyn:Math, lle mae Nodyn:Math. Yn aml, caiff y rhifau triphlyg hyn eu sgwennu fel Nodyn:Math, a'r enghraifft fwyaf adnabyddus yw Nodyn:Math. Os yw Nodyn:Math yn driawd Pythagoraidd, yna mae Nodyn:Math hefyd, ar gyfer unrhyw cyfanrif positif Nodyn:Math.

Triawd cysefin Pythagoraidd yw'r set lle mae Nodyn:Math, Nodyn:Math ac Nodyn:Math yn 'gyd-gysefin' (coprime), hynny yw, nid oes ganddynt rannydd cyffredin mwy nag 1.[1] Mae'r triongl a gaiff ei ffurfio gyda rhifau triphlyg Pythagoras yn driongl ongl sgwâr, a gelwir ef yn "driongl Pythagoras".

O fewn Theorem Olaf Fermat, mae gan yr hafaliad Pythagoraidd Nodyn:Nowrap nifer anfeidraidd o gyfanrifau positif ar gyfer x, y, a z; sef y triawdau Pythagoraidd hyn.

Daw'r enw o theorem Pythagoras, ac mae'n nodi fod hyd holl ochrau triongl yn bodloni'r fformiwla Nodyn:Math. Felly, y triawd yw'r dair ochr hyn, y tri cyfanrif yma o'r triongl ongl sgwâr. Sylwer fod yn rhaid i'r ochrau fod yn gyfanrifau. Er enghraifft, er bod triongl gyda'i hochrau yn Nodyn:Math and Nodyn:Math yn driongl ongl sgwâr, nid yw Nodyn:Math yn driawdau Pythagoraidd gan nad yw Nodyn:Math yn gyfanrif. Ar ben hyn, nid oes gan Nodyn:Math a Nodyn:Math rannydd cyffredin sy'n gyfanrif, gan nad yw Nodyn:Math yn anghymarebol.

Gŵyr mathemategwyr am driawdau Pythagoraidd ers canrifoedd ac mae'r enghraifft gynharaf ohonynt i'w weld ar lechen o glai a elwir yn "Plimpton 322" ac a ganfuwyd ym Mabilon ac a ysgythrwy i fewn i'r clai tua 1800 CC. Fe'i canfuwyd gan Edgar James Banks ychydig wedi 1900.

Enghreifftiau

Ceir 16 triawd cysefin Pythagoraidd, gyda Nodyn:Nowrap:

(3, 4, 5) (5, 12, 13) (8, 15, 17) (7, 24, 25)
(20, 21, 29) (12, 35, 37) (9, 40, 41) (28, 45, 53)
(11, 60, 61) (16, 63, 65) (33, 56, 65) (48, 55, 73)
(13, 84, 85) (36, 77, 85) (39, 80, 89) (65, 72, 97)

Noder, fodd bynnag, nad yw (6, 8, 10) yn driawd cysefin Pythagoraidd, gan ei fod yn lluoswm o (3, 4, 5).

Yn ychwanegol at y rhain, mae'r canlynol yn driawdau cysefin Pythagoraidd gyda Nodyn:Nowrap:

(20, 99, 101) (60, 91, 109) (15, 112, 113) (44, 117, 125)
(88, 105, 137) (17, 144, 145) (24, 143, 145) (51, 140, 149)
(85, 132, 157) (119, 120, 169) (52, 165, 173) (19, 180, 181)
(57, 176, 185) (104, 153, 185) (95, 168, 193) (28, 195, 197)
(84, 187, 205) (133, 156, 205) (21, 220, 221) (140, 171, 221)
(60, 221, 229) (105, 208, 233) (120, 209, 241) (32, 255, 257)
(23, 264, 265) (96, 247, 265) (69, 260, 269) (115, 252, 277)
(160, 231, 281) (161, 240, 289) (68, 285, 293)

Cynhyrchu triawdau

Triawd cysefin Pythagoraidd. Gwelir yma'r 'coesyn' odrifol a ar yr echelin llorweddol a'r coesyn b ar yr echelin fertig. Cynhyrchwyd y grid cromlinog hwn gyda chromlinau o'r cysonyn m − n a'r cysonyn m + n o fewn fformiwl Euclid.

Mae 'fformiwla Euclid' yn fformiwla ffwndamental ar gyfer cynhyrchu triawdau Pythagoraidd, o dderbyn parau o gyfanrifau m ac n gyda Nodyn:Math. Noda'r fformiwla fod y cyfanrifau

yn ffurfio triawd Pythagoraidd.[2]

Mae'r triawd a gynhyrchir o fformiwla Euclid yn gysefin os a dim ond os yw m ac n yn gyd-gysefin ac nad yw'r ddau yn odrifau.[3]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau